Mae Cyngor Cymuned Llanynys yn cwmpasu ardaloedd Llanynys, Rhewl a cyrion Bontuchel. Mae`r plwyf wedi ei leoli ar wasdadir Dyffryn Clwyd rhwng afonydd Clywedog a Clwyd. Mae oddeutu 800 o fobol yn byw yn y plwyf. Mae`r Cyngor Cymuned yn gorff etholedig o 9 cynghorydd sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, sy`n gweithio`n ddi-dal ac yn hollol wirfoddol er budd y gymdogaeth maent yn byw ynddo yn ogystal a buddianau y trigolion lleol. Rydym yn cyfarfod bob yn ail fis, ar yr ail Nos Fawrth, am 7.30y.h. yn Y Pafiliwn, Rhewl. Mae gennym gaderiydd etholedig, is-gadeirydd a chlerc sy’n gyfrifol am gadw cofnodion a gohebiaeth. Bydd ein cynghorydd sirol hefyd yn bresennol yn ein cyfarfodydd. Yn ystod ein cyrfarfodydd byddwn yn ymdrin a materion lleol sydd o bwys i`r gymuned - megis llwybrau cyhoeddus, ffyrdd, draeniaid, adeiladau, a unrhyw gwynion byddwn wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Byddwn yn rhoi barn ar geisiadau cynllunio cyn danfon ein sylwadau i`r Cyngor Sirol. Rydym yn gosod precept bob blwyddyn ac yn cyfrannu tuag at gynnal a chadw y Pafiliwn ar maes chwarae, a cae chwarae plant, yn ogystal a rhoi arian i goffrau`r ysgol leol. Byddwn yn achlysurol yn derbyn ymwelwyr i`r cyfarfodydd megis ein Plismon cymunedol neu ein A.S. lleol. Cynhelir y pwyllgorau i gyd yn y Gymraeg ac mae croeso i unrhyw un o`r cyhoedd fod yn bersennol yn y cyfarfodydd.

Cyngor Cymuned Llanynys Community Council © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Cyngor Cymuned Llanynys Community Council © 2024

Website designed and maintained by H G Web Designs

Mae Cyngor Cymuned Llanynys yn cwmpasu ardaloedd Llanynys, Rhewl a cyrion Bontuchel. Mae`r plwyf wedi ei leoli ar wasdadir Dyffryn Clwyd rhwng afonydd Clywedog a Clwyd. Mae oddeutu 800 o fobol yn byw yn y plwyf. Mae`r Cyngor Cymuned yn gorff etholedig o 9 cynghorydd sy’n dod o amrywiaeth o gefndiroedd, sy`n gweithio`n ddi-dal ac yn hollol wirfoddol er budd y gymdogaeth maent yn byw ynddo yn ogystal a buddianau y trigolion lleol. Rydym yn cyfarfod bob yn ail fis, ar yr ail Nos Fawrth, am 7.30y.h. yn Y Pafiliwn, Rhewl. Mae gennym gaderiydd etholedig, is-gadeirydd a chlerc sy’n gyfrifol am gadw cofnodion a gohebiaeth. Bydd ein cynghorydd sirol hefyd yn bresennol yn ein cyfarfodydd. Yn ystod ein cyrfarfodydd byddwn yn ymdrin a materion lleol sydd o bwys i`r gymuned - megis llwybrau cyhoeddus, ffyrdd, draeniaid, adeiladau, a unrhyw gwynion byddwn wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Byddwn yn rhoi barn ar geisiadau cynllunio cyn danfon ein sylwadau i`r Cyngor Sirol. Rydym yn gosod precept bob blwyddyn ac yn cyfrannu tuag at gynnal a chadw y Pafiliwn ar maes chwarae, a cae chwarae plant, yn ogystal a rhoi arian i goffrau`r ysgol leol. Byddwn yn achlysurol yn derbyn ymwelwyr i`r cyfarfodydd megis ein Plismon cymunedol neu ein A.S. lleol. Cynhelir y pwyllgorau i gyd yn y Gymraeg ac mae croeso i unrhyw un o`r cyhoedd fod yn bersennol yn y cyfarfodydd.
Cyngor Cymuned Llanynys Community Council